Dathlu Llwyddiannau

Bwletin y Prif Weithredwr

Budd i Bawb

Dysgu a Datblygu

Llesiant Staff

Dyma gyfle i staff sydd ddim yn gweithio yn prif swyddfeydd y Cyngor i gadw mewn cysylltiad, i ddysgu mwy am beth sy’n digwydd ac i ddod i ‘nabod cyd-weithwyr yn well.

Byddwn yn rhoi hanesion difyr am staff o wahanol adrannau o bob rhan o’r sir yma ac hefyd yn gadael i chi wybod am ddatblygiadau yn y Cyngor. Fe welwch hefyd fod adrannau arbennig o’r wefan ar gyfer Ffordd Gwynedd ac ar gyfer negeseuon gan y Prif Weithredwr. Rydym yn gobeithio y bydd hyn oll yn eich helpu yn eich swydd ac y gallwch hefyd helpu aelodau o’r cyhoedd os ydynt yn eich holi am wasanaethau’r Cyngor.

Os ydych yn mwynhau darllen y cylchgrawn papur, peidiwch â phoeni, bydd dal ar gael drwy’r ffyrdd arferol. Bwriad y safle hwn ydi cyrraedd y bobl hynny sydd ddim yn gweld y cylchgrawn yn arferol ac hefyd mae’n gyfle i wneud pethau sydd ddim yn bosib efo’r cylchgrawn traddodiadol, er enghraifft mwy o luniau neu clipiau fideo ble mae’n bosib.

Mae’r wefan yma yn gweithio ar eich ffôn symudol, ar eich dyfais lechen (iPad er enghraifft) ac ar eich cyfrifiadur cartref neu yn y swyddfa.

Os oes gennych gwestiwn neu sylw am y safle hwn, am y cylchgrawn, neu unrhyw agwedd o Gyfathrebu Mewnol y Cyngor, yna cysylltwch os gwelwch yn dda ar:

  • CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru