Mae’n hawdd anghofio am ein lles corfforol pan fydd y gwaith yn brysur — ond mae gwarchod eich cefn a’ch corff yn hollbwysig. Gyda Diwrnod Iechyd a Diogelwch yma, dyma gyfle perffaith i gymryd eiliad i wirio eich bod yn gweithio mewn ffordd sy’n cadw chi’n ddiogel ac yn gyfforddus.
Hyfforddiant Symud a Thrin:
Ydych chi’n Symud a Thrin gwrthrychau neu bobl yn y gweithle?
Ydych chi wedi derbyn hyfforddiant Symud a Thrin?
Mae cyrsiau Symud a Thrin ar gael ar gyfer staff y Cyngor, holwch eich Rheolwr am fwy o wybodaeth.
Gosod eich gweithfan yn gywir:
Mae gweithfan wedi’i gosod yn anghywir yn gallu arwain at boen, anafiadau a blinder — ond mae gwneud addasiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Os ydych chi:
- heb gwblhau hunanasesiad gweithfan o’r blaen
- wedi dechrau profi poen neu anghysur
- neu ddim wedi diweddaru’r hunanasesiad ers tro…
Cwblhewch yr holiadur isod i wirio eich gweithfan: http://hq-iis-01/holiadursgriniau
