Am gyn lleied â £7.00 y mis, gallwch fwynhau’r diogelwch y gall 12 buddion iechyd y WHA ei roi i chi. Mae manteision megis optegol a deintyddol sy’n helpu gyda chostau gofal llygaid a thriniaeth ddeintyddol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn mynd trwy o dro i dro . Yn ogystal â’r ddau fudd-dal gwerthfawr yma, mae yswiriant yn erbyn y gost o ystod eang o driniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin yn ogystal.

Be all WHA wneud i mi?

Pan fyddwch yn ymuno gyda’r WHA , gallwch hawlio budd-daliadau arian parod ar gyfer yr ystod eang o driniaethau a gwasanaethau iechyd a ddangosir yn y Tabl o Fudd-daliadau. Bydd y budd-daliadau arian parod yn eich helpu gyda chostau eich triniaeth a gall hyd yn oed helpu gyda’r costau annisgwyl sy’n gallu digwydd pan fydd rhaid i chi fynd i’r ysbyty.  

 Pum rheswm da i ymuno â WHA

  • 12 buddion iechyd dydd i ddydd gwahanol.
  • Taliadau cost isel yn dechrau o £7.00 y mis.
  • Hawliadau yn cael eu setlo yn gyflym, fel arfer o fewn 48 awr.
  • Gallwch ddewis eich meddyg eich hun.
  • Nid yw taliadau yn cynyddu gydag oedran

Mae WHA hefyd yn darparu yswiriant damweiniau personol am ddim hyd at £10,000 am farwolaeth neu anabledd o ganlyniad i ddamwain. Mae budd-daliadau damwain bersonol hefyd yn daladwy, ar gyfraddau is, am anafiadau eraill gan gynnwys toriadau i’r prif esgyrn y fraich neu’r goes.

Eisiau gwybod mwy? 

Os hoffech wybod mwy am WHA, ymwelwch â www.whahealthcare.co.uk (Mae hon yn safle we allanol sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor). Gallwch hefyd ffonio am ddim ar 0800 298 1870 neu e-bostio: mail@whahealthcare.co.uk.

I lawrlwytho ffurflen gais, cliciwch yma.

Gall aelodau presennol WHA lawr lwytho ffurflen hawlio yma.

WHA Direct Poster – Cymraeg

WHA-Direct-Payroll-Brochure-Businesses Employees- Cymraeg