Cynllun Beicio i’r Gwaith

Hoffech chi gael beic newydd?

Mae’r Cynllun Beicio i’r Gwaith yn eich galluogi chi fel aelod o staff i lesu beic newydd am gyfnod o 12mis, 24mis neu 36mis. Yn ystod y cyfnod yma bydd disgwyl i chi wneud 12, 24 neu 36 taliad misol o werth cyfartal yn ddibynnol ar werth y beic sydd eisoes wedi ei ddewis. Ar ddiwedd y cyfnod lesu, mae’n bosib y bydd y Cyngor yn cynnig i chi brynu’r beic. Gall y cynllun sicrhau arbedion sylweddol yn dibynnu ar eich amgylchiadau treth incwm a gwerth y beic. 

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Rydych yn ildio’r hawl i ran o’ch cyflog arferol am gyfnod penodol (12mis, 24mis neu 36mis) yn gyfnewid am feic ac offer diogelwch addas ar gyfer teithio i ac o’r gwaith. Bydd y beic yn cael ei logi i chi yn ystod y cyfnod yma ar yr amod fod o leiaf 50% o ddefnydd y beic ar gyfer teithio i ac o’r gwaith, fodd bynnag nid yw hyn yn golygu na allwch ddefnyddio’r beic yn eich amser hamdden. Mae’n bosib y cewch gyfle i brynu’r beic ar ddiwedd y cyfnod lesu, byddai hyn fodd bynnag yn amodol ar gytundeb ar wahân, a byddai’n ofynnol i chi dalu y taliad diwethaf, sef y taliad olaf yn ogystal cyn i chi fod yn berchen y beic.

Sut mae’r cynllun o fudd i mi?

Gan fod cost y beic yn cael ei dynnu o’ch cyflog gros, mae’r arian a fyddech wedi bod yn talu treth incwm ac Yswiriant Gwladol arno yn cael ei gyfrannu at gost eich beic. Golyga hyn ei fod yn llawer rhatach i chi dalu am y beic yn y modd yma nag o’ch cyflog net. Mae nifer o fuddiannau i’w hennill o feicio i’r gwaith, megis gwella ffitrwydd ac iechyd, lleihau costau teithio, cyfrannu at warchod yr amgylchedd ynghyd a lleihau’r angen am leoliadau parcio.

Dalier sylw, mae’n rhaid i chi fod efo cytundeb gwaith parhaol am flwyddyn neu fwy efo’r Cyngor, i fedru bod yn rhan o’r Cynllun. Hefyd efallai nid pawb sydd yn gymwys i fod yn rhan o’r Cynllun gan ei fod yn ddibynnol ar lefel cyflog yr unigolyn. Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith ein bod yn gyfreithiol angen sicrhau y bydd y cyflog yn dilyn yr aberthiad yn uwch na’r trothwy isafswm cyflog cenedlaethol trwy gydol yr aelodaeth yn y Cynllun. Er fod uchafswm y gwariant yn gallu bod yn £5,000, nid yw’n golygu y byddwch yn derbyn hyn, bydd y swm yn seiliedig ar eich cyflog.

Am fwy o wybodaeth cymerwch olwg ar y FAQ’s 

Sut i wneud cais?

1. Llawrlwytho’r Ffurflen Gais Cynllun Beicio Ffurflen Gais – Application Form 

Ffurflen gais Cynllun Beics 2025 (Word) i’w llawrlwytho

Ffurflen gais Cynllun Beics 2025 (PDF) i’w llawrlwytho

2. Cwblhau’r ffurflen a’i  hanfon at Buddiannau@gwynedd.llyw.cymru

3. Disgwyl i dderbyn cytundeb drwy’r post neu dros ebost

4. Arwyddo’r cytundeb a’i anfon yn ôl at y Tîm Buddiannau

5. Mynd i nôl eich beic!

6. Rhestr Siopau Beics

Eisiau Mwy o Wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ychwanegol cysylltwch â’r Tîm Buddiannau yn Gwasanaethau Cefnogol ar 01286 679111 neu ebostiwch: buddiannau@gwynedd.llyw.cymru