FAQ’s Cynllun Beicio i’r Gwaith

SUT MAE’R CYNLLUN YN GWEITHIO?

Pwrpas y Cynllun ydi rhoi cyfle i chi fel aelod o staff y Cyngor i fedru llogi beic i’ch defnydd unigol. Rydych yn ildio’r hawl i ran o’ch cyflog arferol am gyfnod penodol (12mis, 24mis neu 36mis) yn gyfnewid am feic ac offer diogelwch addas ar gyfer teithio i ac o’r  gwaith. Enw’r math yma o drefniant yw Aberthu Cyflog. Bydd y beic yn cael ei lesu i chi yn ystod y cyfnod yma ar yr amod fod o leiaf 50% o ddefnydd y beic ar gyfer teithio i, ac o’r gwaith, fodd bynnag nid yw hyn yn golygu na allwch ddefnyddio’r beic yn eich amser hamdden. Mae’n bosib y cewch gyfle i brynu’r beic ar ddiwedd y cyfnod lesu, byddai hyn fodd bynnag yn amodol ar gytundeb ar wahan.

BETH YW CYNLLUN ABERTHU CYFLOG?

Mae Cynllun Aberthu Cyflog yn galluogi’r Cyngor i gynnig budd sydd heb fod yn arian i’w staff os byddent yn cytuno i dynnu swm penodol o’u cyflog misol fel rhan o’r trefniant aberth. Ni fydd angen talu treth nag cyfraniad yswiriant gwladol ar y swm hwn. Am fwy o fanylion trowch at wefan CThEM (HMRC).

FAQ's Beics Llun 1

SUT MAE’R CYNLLUN O FUDD I MI?

Gan fod cost y beic yn cael ei dynnu o’ch cyflog gros mae’r arian a fyddech wedi bod yn talu treth incwm ac Yswiriant Gwladol arno yn cael ei gyfrannu at gost eich beic. Golyga hyn ei fod yn llawer rhatach i chi dalu am y beic yn y modd yma nag o’ch cyflog net.

PWY SY’N GYMWYS?

Dalier sylw, mae’n rhaid i chi fod efo cytundeb gwaith parhaol am flwyddyn neu fwy efo’r Cyngor, i fedru bod yn rhan o’r Cynllun. Hefyd efallai nid pawb sydd yn gymwys i fod yn rhan o’r Cynllun gan ei fod yn ddibynnol ar lefel cyflog yr unigolyn. Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith ein bod yn gyfreithiol angen sicrhau y bydd y cyflog yn dilyn yr aberthiad yn uwch na’r trothwy isafswm cyflog cenedlaethol trwy gydol yr aelodaeth yn y Cynllun. *Er fod uchafswm y gwariant yn gallu bod yn £5,000, nid yw’n golygu y byddwch yn derbyn hyn, bydd y swm yn seiliedig ar eich cyflog.

PA OFFER ALLAF EI GAEL O DAN Y CYNLLUN?

Cewch ddewis beic ynghyd ag offer diogelwch hyd at werth cyfunol o £5,000 (yn cynnwys TAW)* Gweler uchod. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun mae’n rhaid i’r beic fod yn addas ar gyfer teithio i ac o’r gwaith. Gall yr offer diogelwch gynnwys:

  • Helmed
  • Cloch neu gorn
  • Goleuadau yn cynnwys pecynnau dynamo
  • Drychau a gardiau olwyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth yn amharu ar welededd y beiciwr.
  • Clipiau beic a gorchudd dillad
  • Cludydd bagiau a strapiau er mwyn galluogi i fagiau gael eu cludo’n ddiogel
  • Cloeon neu gadwynau er mwyn sicrhau fod posib diogelu’r beic.
  • Pympiau, pecyn atgyweirio twll, pecynnau offer beicio a chyfarpar selio teiar er mwyn gwneud mân atgyweiriadau.
  • Dilladau adlewyrchol ynghyd ag adlewyrchydd blaen ac adlewyrchydd i’w osod a’r olwynion y beic.

ER MWYN BOD YN RHAN O’R CYNLLUN HWN MAE’N RHAID DEWIS BEIC CYFAN AC UNRHYW OFFER YCHWANEGOL YR YDYCH AM EU HARCHEBU GAN YR UN CYFLENWR. NI ELLIR DEWIS OFFER YN UNIG.

FAQ's Beics Llun 2

PWY SY’N CYFLENWI’R OFFER?

Gallwch archebu beic o unrhyw siop o’ch dewis cyn belled â’u bod yn fodlon cydweithredu â threfn y Cyngor.

Nodwch fod rhai siopau cenedlaethol ac ar lein yn cymryd hirach i brosesu

BETH YDI’R UCHAFSWM GALLAF LESU?

Mae posib dewis beic ac unrhyw offer diogelwch perthnasol hyd at werth cyfunol o £5,000 yn cynnwys TAW. Ni cheir archebu offer o fwy nag un siop.

A FYDD BUDDIANNAU SY’N GYSYLLTIEDIG A CHYFLOG YN CAEL EU HEFFEITHIO GAN Y CYNLLUN HWN?

Mae’n bosib y bydd yna effaith ar eich hawl i fudd-daliadau megis taliadau mamolaeth neu dadolaeth statudol, taliadau salwch statudol a chredyd treth gwaith gan fod y rhain oll yn cael eu cyfrifo ar eich cyflog gostyngol. Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag aberth cyflog a’r effaith y gall ei gael ar eich buddiannau trowch at wefan CThEM.

PRYD GAI’R BEIC? 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen ac wedi ei hanfon yn ol i ni, cewch eich gwahodd i arwyddo eich cytundeb. Yn arferol bydd hyn yn digwydd o fewn wythnos o dderbyn y cais. Dylech adael hyd at bythefnos arall i’r gwaith papur perthnasol gael ei gwblhau cyn y gallwch nol eich beic.

Nodwch fod siopau ar lein fel arfer yn disgwyl derbyn y taliad cyn rhyddhau’r beic ac felly yn medru cymryd i fyny at 6 wythnos.

PWY FYDD PERCHENNOG Y BEIC?

Er y bydd gennych ddefnydd llawn o’r beic yn ystod y cyfnod lesu mae’n rhaid i berchnogaeth y beic barhau gyda’r Cyngor er mwyn derbyn y buddiannau treth.

GAF I DDEFNYDDIO’R BEIC YN FY AMSER HAMDDEN?

Cewch, ond mae’n rhaid i o leiaf 50% o ddefnydd y beic ac unrhyw offer fod ar gyfer teithio i ac o’ch gwaith gyda’r Cyngor neu rhwng swyddfeydd y Cyngor. Os na fydd y beic yn cael ei ddefnyddio i’r pwrpas hwn fe fydd y cytundeb hwn yn annilys a byddech yn colli’r budd o’r rhyddhad rhag treth.

SAWL BEIC GAF I EU LESU FEL RHAN O’R CYNLLUN?

Ni chaniateir lesu dim ond un beic yn ystod y cyfnod 12mis/24mis/36mis. Fodd bynnag pe byddai’r unigolyn yn penderfynu lesu beic arall wedi diwedd y cytundeb mae yn bosib cymryd rhan eto.

FAINT FYDDAI’N EI ARBED?

Mae’r swm y gallech ei arbed yn ddibynnol ar faint o dreth ac Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu a gwerth y beic. Cysylltwch â’r Tîm Buddiannau am fwy o fanylion.

FAQ's Beics Llun 3

BETH FYDD YN DIGWYDD OS BYDD Y BEIC NEU’R OFFER YN CAEL EU COLLI NEU EU DIFRODI?

Eich cyfrifoldeb chi yw yswirio’r beic yn erbyn difrod neu ladrad. Os bydd y beic a/neu’r offer yn cael ei ddwyn, bydd yn rhaid i chi barhau i dalu am y beic a’r offer a leswyd. Yn yr un modd os bydd y beic a/neu’r offer diogelwch yn cael ei ddifrodi, bydd yn rhaid i chi dalu am ei atgyweirio.

BETH FYDD YN DIGWYDD AR DDIWEDD Y CYFNOD LESU?

Y Cyngor sydd yn berchen ar y beic ac unrhyw offer diogelwch. Wedi diwedd y cyfnod lesu mae’n bosib y bydd y Cyngor yn ystyried gwerthu’r beic i chi. Byddai wrth gwrs yn ofynnol i chi dalu y swm terfynol ar ddiwedd y cyfnod cyn byddech yn berchen y beic. Wrth ystyried gwerthu’r beic, bydd angen i’r Cyngor weithredu yn unol a canllawiau’r CThEM.

BETH OS BYDDAF YN GADAEL Y CYNGOR CYN AD-DALU’R SWM LLAWN?

Os bydd eich cyflogaeth gyda’r Cyngor yn dod i ben am unrhyw reswm cyn ddiwedd y cyfnod lesu bydd yn rhaid i chi dalu’r swm sy’n ddyledus cyn bod eich cyflogaeth yn terfynu. Bydd y Cyngor yn tynnu’r swm dyledus o’ch cyflog diwethaf. Os nad yw hyn yn ddigonol neu os nad yw hyn yn digwydd am ba bynnag reswm, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r swm sy’n ddyledus ar alw’r Cyngor. Nodwch os bydd hyn yn digwydd ni fyddwch yn derbyn arbedion ar y swm dyledus.

BETH SY’N DIGWYDD OS NAD YW’R DIDYNIADAU WEDI EU GWNEUD AM RHESWM E.E MAMOLAETH?

Os ydych yn absennol o’r gwaith oherwydd cyfnod Mamolaeth, Tadolaeth neu absenoldeb Mabwysiadu, mae’n bosib y bydd y Cyngor yn cytuno i ohirio’r taliadau aberth cyflog dros gyfnod eich absenoldeb. Bydd y Cytundeb Beicio i’r Gwaith yn parhau hyd nes y byddwch yn dechrau ennill cyflog unwaith eto neu fod eich cyflogaeth gyda’r Cyngor yn dod i ben (mewn sefyllfa fel hyn byddai’n rhaid talu Taliad Terfynu). Os ydych yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch tymor hir yn ystod cyfnod y Cytundeb Beicio i’r Gwaith bydd lesu’r beic ac unrhyw offer diogelwch perthnasol ynghyd a’r trefniant aberth cyflog yn parhau.

FAQ's Beics Llun 4