
Mae Cyngor Gwynedd wedi partneru gyda chwmni Tusker er mwyn cyflwyno Cynllun Ceir Gwyrdd drwy Aberthu Cyflog i staff* y Cyngor.
Mae’r cynllun yn caniatáu i chi yrru car trydan newydd neu ail law, gan gynnwys y gost o gynnal a chadw ac yswiriant am hyd at bum blynedd am swm misol sefydlog. Byddwch felly’n derbyn pecyn car hollgynhwysol am swm misol sefydlog.
Sut mae’r cynllun yn gweithio?
Yn fras, mae’r Cynllun yn cael ei redeg o dan yr hyn a elwir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) fel egwyddor o “aberthu cyflog”. Gyda’r cynllun aberthu cyflog, rydych yn cytuno i ildio rhan o’ch cyflog crynswth, sy’n ddyledus o dan eich cytundeb cyflogaeth am fudd anariannol – yn yr achos hwn car trydan newydd neu ail law.
Mae’r cynllun yn cynnig arbedion sylweddol i staff* sy’n dymuno aberthu cyfran o’u cyflog er mwyn gyrru Car Gwyrdd, car trydan yn unig.
Beth yw’r buddion?
Gyda’r Cynllun Ceir Gwyrdd, byddwch yn aberthu eich cyflog cyn y didynnir eich Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a phensiwn (os yn gymwys), sy’n golygu y gallwch arbed ar gyfartaledd £80 y mis!
- Moduro di-bryder: gyrrwch i ffwrdd mewn car trydan newydd sbon am gost misol penodol
- Arbediad ar gyfartaledd o £80 y mis drwy Dreth ac Yswiriant Gwladol
- Yswiriant modur holl gynhwysfawr
- Un rhif ffôn ar gyfer eich holl anghenion cerbyd
- Disgowntiau fflyd
- Car trydan newydd, fel arfer bob pum blynedd
- Diogelwch yn erbyn rhai o ddigwyddiadau annisgwyl bywyd
Sut dwi’n chwilio am gar?
- Ewch i gwefan The Car Benefit Scheme (buddibawb.co.uk)
- Rhowch eich cyfeiriad ebost gwaith i mewn fan hyn.
- Ewch ati i bori’r wefan a chymharu’r ceir trydan sydd ar gael.
- Wedi i chi dderbyn dyfynbris ‘rydych yn hapus gydag ef, bydd angen i chi gysylltu gyda’r Adran Cefnogaeth Gorfforaethol er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys i fod yn rhan o‘r cynllun, gan nodi iddynt y dyfynbris sydd wedi ei gynnig.
- Os yn gymwys, bydd angen i chi wedyn gwneud cais am y cerbyd ac arwyddo dogfen o’r enw “Employee Salary Sacrifice Agreement”.
- Wedi i tuskerdirect Ltd dderbyn cadarnhad eich bod yn gymwys, bydd eich car yn cael ei archebu a dylech ddisgwyl oddeutu 12 wythnos.
- Oddeutu 12 wythnos wedi mynd heibio … car trydan newydd neu ail law yn cyrraedd!
*Mae hon yn safle we allanol sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
Aelodau o’r cynllun pensiwn LGPS
Dylech fod yn ymwybodol bod y cynllun aberthu cyflog yn lleihau eich cyfraniadau pensiwn ac yn lleihau cyfraniadau pensiwn y Cyngor fel cyflogwr. Bydd hyn yn arwain at lleihad yn eich pensiwn ar eich ymddeoliad.
*Yn anffodus, nid yw pob aelod o staff yn gymwys ar gyfer y cynllun. Nid yw’r cynllun ar gael i’r canlynol:
- Nid yw aelodau etholedig yn gymwys
- Staff a delir dan Ddogfen Tâl Athrawon Ysgol ac Amodau (STPCD)
- Unrhyw weithwyr ble mae eu telerau a’u hamodau wedi eu diogelu dan TUPE
- Yn anffodus, oherwydd deddfwriaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ni fydd unrhyw weithiwr sydd a’i aberth cyflog yn mynd a’i gyflog o dan yr Isafswm Tâl Cenedlaethol, neu o dan gyfyngiadau enillion isaf, yn gallu cymryd rhan yn y cynllun.
Cofiwch…
Gall y cynllun hwn gael effaith sylweddol ar eich pensiwn os ydych yn aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol (e.e. Cronfa Bensiwn Gwynedd).
Os byddech yn penderfynu i ymaelodi â’r Cynllun Ceir Gwyrdd, bydd yn golygu eich bod yn ymrwymo i’r cynllun am y cyfnod a gytunwyd (hyd at 60 mis) heb eithriad.

0333 400 2020 / EETeam@ss4c.com
