Croeso cynnes i safle’r Cynllun Disgownt Cenedlaethol – y Cynllun “Be Saving” (sef yr hen Gynllun Vectis ar ei newydd wedd)

Fel rhan o’r cynllun arbennig hwn, mae miloedd o wahanol gynigion a disgowntiau gyda brandiau cenedlaethol ar gael i chi, a hynny ar-lein ac ar y Stryd Fawr.

Sut ydw i’n cofrestru?

Cliciwch ar lun y cerdyn Vectis i gael mynediad i’r safle (Mae hon yn safle we allanol sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor).

Os ydych wedi cofrestru yn flaenorol ar y Cynllun, medrwch logio i mewn fel arfer drwy ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a’ch cyfrinair i’r safle.

Os ydych yn ymweld â’r safle am y tro cyntaf, bydd angen i chi gofrestru wrth lenwi’r ffurflen, a fydd yn gofyn am eich rhif cyflog, cyfeiriad e-bost (defnyddiwch eich un personol) a’r rhif adnabod, sef 9616.

Ar ôl i chi gofrestru, cliciwch ar ‘Arbedion Ffordd o Fyw’ i gael golwg ar y cynigion a’r disgowntiau sydd ar gael i chi!

Bydd y cerdyn ar gael drwy linc i App ar eich ffon symudol. Gweler isod :-

Apple –    

Android –

Os ydych yn cael problem efo’r lincia uchod – bydd linciau defnyddiol eraill yn cael eu gosod yma yn y man, pan fyddwn wedi eu derbyn gan y cwmni.

Poster i App Be Saving Cymraeg

Be Saving – Llawlyfr Defnyddwyr Cymraeg- Compressed

Os ydych wedi laru ar ebyst marchnata y cwmni, mae modd optio allan o’u derbyn drwy fynd i My Account (Ar y Cynllun Be Saving) a mynd i’r sgrin isod a thynnu y tics perthnasol a wedyn pwyso Update

 

Os bydd gennych unrhyw gwestiwn am y Cynllun,  cysylltwch a ni wrth e-bostio:

Buddiannau@gwynedd.llyw.cymru