
Newyddion da. Mae’r Cyngor wedi setio fyny efo Perk Portal EE. Mae hyn yn golygu gall staff y Cyngor (eu teuluoedd a’u ffrindiau) gael mynediad i’r codau disgownt newydd ac felly parhau i gael 20% o ddisgownt oddi ar rent llinell yn fisol ar eu ffon, tabled, neu gerdyn SIM yn unig.
Mae cael y disgownt yn syml, ac i’w wneud yn haws fyth mae EE wedi creu y nodiadau isod.
Gwneud y mwyaf o’ch pecyn
Gall staff gael i fyny i 5 cod y flwyddyn ar gyfer defnydd unigol personol. Gall eu ffrindiau a’u teuluoedd fanteisio ar y cod yn ogystal.
Dyma sut i gael mynediad i’r codau disgownt
- Mae’r Cyngor eisoes wedi setio fyny i’r Cynllun. Dylai gweithwyr fynd ymlaen i’r Portal Perk yn ee.co.uk/perk i gofrestru eu hunain.
- I wneud hyn, mae angen cyflwyno eich cyfeiriad ebost personol yn y Cyngor (neu Ysgol). Os nad oes ganddoch un, yna gallwch anfon llun o’ch cerdyn adnabod. Os nad oes gennych gerdyn adnabod, holwch eich Rheolwr.
- Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch fynd i mewn i’r portal a chael gafael ar y codau disgownt.
Mae o mor hawdd a huna!
Gellir gweld y telerau llawn ar y portal, os byddwch yn dymuno.
Os nad oes gennych gyfeiriad ebost y Cyngor (neu ebost Ysgol), mi fyddai yn werth i chi ella drio cael disgownt drwy safle Budd i Bawb efo’r Cynllun Vectis. Gweler y linc isod.
https://www.buddibawb.co.uk/about/vectis-card/
Pan fyddwch fewn yn y safle chwiliwch am EE a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau sydd ganddynt.
