Nodwch: Er mwyn hawlio’r disgownts o dan y Cynllun yma, bydd busnesau yn gofyn i weld eich Cerdyn Adnabod Staff neu eich Cerdyn Vectis. Os nad oes gennych Gerdyn Adnabod Staff, siaradwch gyda’ch Rheolwr Llinell. Os nad oes gennych Gerdyn Vectis digidol newydd cysylltwch a Meinir ar 01286 679103 / 07920331962.
Cliciwch ar y categoriau isod er mwyn gweld manylion y disgownts sydd ar gael i chi.
Arlunio a Chrefftau
Bwyd a Diod
Cartref
Digwyddiadau Arbennig
Gwasanaethau Proffesiynol – Cyffredinol
Gwasanaethau Proffesiynol – Iechyd a Lles
Iechyd a Harddwch
Pethau i’w Gwneud a Llefydd i Fynd
Siopa
Teithio a Llety
Trafnidiaeth
Eisiau gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi? Cliciwch yma i’w gweld ar y map!
Ddim yn gweld busnes neu wasanaeth rydych yn ei ddefnyddio yn rheolaidd? Cliciwch yma i awgrymu busnes lleol!
BUSNES Y MIS
TACHWEDD 2025
SIOP A CAFFI Y PENTRA’

Mae Siop Fferm Abersoch – sydd wedi bod yn annwyl iawn i gymunedau Abersoch, Sarn Bach a’r cylch ers tro, bellach yn cael ei hadnabod fel Siop a Chaffi y Pentra’. Mae’r newid yn adlewyrchu taith y busnes o fod yn Siop Fferm Fach i fod yn Ganolfan Gymunedol fywiog lle gall trigolion a nifer dda o ymwelwyr fwyta, yfed, siopa ac ymlacio.
“Rydyn ni wedi datblygu ychydig y tu hwnt i’r syniad o Siop Fferm draddodiadol,” eglura’r tîm. “Mae Siop y Pentra’ yn teimlo’n iawn i ni, mae’n adlewyrchu’n well yr hyn ydan ni, ac mae wedi dod yn hwb lleol a chyfeillgar i bawb.”
Gan gadw at egwyddorion gwreiddiol y busnes, mae Siop y Pentra’ yn parhau i gynnig cynnyrch lleol o ansawdd uchel, nwyddau Cymreig a danteithion cartref.


Pecynnau Croeso

https://www.abersochfarm.shop/cy/contact

https://www.abersochfarm.shop/cy/contact

https://www.abersochfarm.shop/cy/contact
Ond eleni, da ni nhw wedi ehangu ein gorwelion. Da ni bellach yn cynnig prydau gyda’r nos – sy’n brydau tymhorol eu naws, ac mae’r fwydlen yn adlewyrchu cynnyrch gorau Cymru ac fe’u gweinir mewn awyrgylch gartrefol iawn.

Gallwch weld ein Bwydlen Caffi ar y linc yma Cafe | Siop Fferm Abersoch
Archebwch eich lle ar gyfer ein Bwydlen Nadolig

Mae’r bar sydd ar y safle hefyd yn ffynnu. Caiff ei adnabod wrth yr is-enw ‘Y Sied’. Yn ddiweddar cynhaliodd y tîm ŵyl gwrw fywiog a ddenodd dyrfa wych, roedd awyrgylch gymunedol arbennig yno. Roedd cerddoriaeth fyw gan artistiaid lleol yno a llond gwlad o gwrw lleol!

Ac mae mwy fyth o reswm dros ddathlu hefyd. Dros yr haf, derbyniodd y perchnogion Siôn Edwards a Megan Roberts wobr anrhydeddus gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru 2025. Cawsant eu gwobrwyo am eu gwaith yn Bodlondeb, Sarn Bach. Enillwyd yr anrhydedd yn y Gystadleuaeth Adeiladau a Gwaith Fferm am eu harloesedd a’u rhagoriaeth wrth addasu adeiladau fferm gyda ffocws ar gynhyrchu bwyd.

“Mae’n anrhydedd enfawr cael ein cydnabod mewn digwyddiad mor uchel ei barch,” meddai Megan. “Mae’n teimlo fel gwobr am yr holl waith caled dros y blynyddoedd diwethaf wrth i ni greu rhywbeth arbennig i’n pentref.”
Gyda bwyd lleol ffres, croeso cynnes, ac ambell syniad cyffrous newydd ar y gorwel, mae Siop y Pentre yn parhau i ddatblygu. Mae’n profi mai cefnogaeth cymuned, creadigrwydd a bwyd da yw calon bywyd Pen Llŷn.
Digwyddiadau i ddod yn ystod y misoedd nesaf.
Mae plania i gynnal Brecwast efo Sion Corn a Ffair Nadolig eto eleni, gweler poster digwyddiadau llynnedd isod.

Fe welwch ein Oriau Agor isod


https://www.abersochfarm.shop/cy/virtual-tour
Bodlondeb, Lon Sarn Bach, Abersoch, LL53 7BG https://goo.gl/maps/gu6Makun16A78Ckx7
01758 229337
www.abersochfarm.shop
https://www.facebook.com/abersochfarmshop/
https://www.instagram.com/abersochfarmshop/?hl=en
***********************************************
Cefnogwch Ymgyrch Prynu’n Lleol y Cyngor

Gallwch helpu i ledaenu’r neges drwy ddilyn a rhannu cynnwys o:-
