Hyd at 15% oddi wrth pecynnau SIM talu’n fisol ar gael i chi a 5 aelod o’ch teulu a ffrindiau (cytundeb 12 mis yn unig)

15% oddi ar holl becynnau talu’n fisol ‘handset’, iPad a thabled eraill (cytundeb 24 mis yn unig)

Os byddwch yn trio cael y disgownt yn y siop, a fod yr aelod o staff yno yn dweud wrthych mai ond ar lein mae i’w gael yn anffodus, cwestiynwch nhw ar hyn plis. Yn syml os nad oes gennych gyfeiriad ebost y Cyngor (neu Ysgol), ni fyddwch yn medru ei gael ar lein. Eglurwch hynny wrth yr aelod staff ac ewch a slip cyflog efo chi os yn bosib a’ch cerdyn adnabod staff os oes gennych un, fel tystiolaeth eich bod yn gweithio i’r Cyngor.  Mae modd iddynt ddefnyddio ffurflen AV ar gyfer hawlio’r disgownt ar eich cyfer wedyn yn y siop.

Os ydych yn ceisio cael y disgownt ar lein ewch i: vodafone.co.uk/advantage. (Mae hon yn safle we allanol sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor).

Dim ond os bydd gennych ebost y Cyngor (neu ebsot Ysgol) gellir cael y disgownt ar lein ar y funud. Yn anffodus penderfyniad Vodafone ydi hyn, mae o allan o’n dwylo ni yn y Cyngor. Rydym yn dal i geisio negodi efo nhw ar hyn. 

Os nad oes gennych gyfeiriad ebost y Cyngor (neu ebost Ysgol), a’ch bod wedi cael trafferth cael y disgownt yn y siop, mi fyddai yn werth i chi ella drio cael disgownt drwy safle Budd i Bawb efo’r Cynllun Vectis. Gweler y linc isod.  

https://www.buddibawb.co.uk/about/vectis-card/

Pan fyddwch fewn yn y safle chwiliwch am Vodafone a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau sydd ganddynt.

Sylwch mae gofyn talu ffi aelodaeth o £10 ar gyfer pob cysylltiad