
Cynllun Corfforaethol Byw’n Iach – Byw’n Iach
Gallwch ymuno ar lein ar y linc yma. Join@home gyda Byw’n Iach (llyw.cymru)

Mae Ffit Conwy yn cynnig aelodaeth gorfforaethol i staff Cyngor Gwynedd sydd yn dymuno defnyddio eu cyfleusterau.
Maent yn cynnig aelodaeth gorfforaethol sy’n eich galluogi i gael gostyngiad o 10% ar bris aelodaeth arferol, sy’n gostwng y pris i £34.65 y mis.
Mae eu haelodaeth gorfforaethol yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision, yn cynnwys:
- Mynediad at bob un o’r 10 canolfan ledled Conwy, y 7 campfa a’r 4 pwll nofio
- Cyflwyniad i’r gampfa’n rhad ac am ddim
- Gosod rhaglenni ac adolygiadau gyda hyfforddwyr
- Mynediad at dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos
- Mynediad i’r system archebu ar-lein
- Wi-Fi yn rhad ac am ddim ymhob safle
Am fwy o wybodaeth gweler y linc isod

Mae Môn Actif yn cynnig aelodaeth gorfforaethol i staff Cyngor Gwynedd sydd yn dymuno defnyddio eu cyfleusterau.
Maent yn cynnig aelodaeth gorfforaethol sy’n eich galluogi i gael gostyngiad ar bris aelodaeth arferol, sy’n gostwng y pris i £25 y mis.
Mae eu haelodaeth gorfforaethol yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision.
Am fwy o wybodaeth gweler y linc isod
Canolfannau hamdden: gwybodaeth er eich diogelwch (llyw.cymru)
