Ffysiotherapi

 

Mae ffisiotherapi yn helpu i adfer symudiad a swyddogaeth pan fydd rhywun yn cael ei effeithio gan anaf, salwch neu anabledd. Gall hefyd helpu i leihau eich risg o anaf neu salwch yn y dyfodol.

Mae’n defnyddio dulliau holistig sy’n cynnwys y claf yn uniongyrchol yn eu gofal eu hunain.

Pryd defnyddir ffisiotherapi?

Gall ffisiotherapi fod yn ddefnyddiol i bobl o bob oed sydd ag ystod eang o gyflyrau iechyd, gan gynnwys problemau sy’n effeithio ar:

• yr esgyrn, cymalau a meinwe meddal – fel poen cefn , poen gwddf , poen ysgwydd ac anafiadau chwaraeon

• yr ymennydd neu’r system nerfol – megis problemau symud o ganlyniad i strôc , sglerosis ymledol (MS) neu glefyd Parkinson

 • y galon a chylchrediad – fel adsefydlu ar ôl trawiad ar y galon

• yr ysgyfaint ac anadlu – fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a ffibrosis systig

Gall ffisiotherapi wella eich ymarfer corff tra’n helpu chi i atal anafiadau pellach. Os ydych chi’n teimlo y gall triniaeth ffisiotherapi fod o gymorth i chi cysylltwch â’r Uned Iechyd Galwedigaethol am drafodaeth ynglŷn â chyfeiriad am driniaeth ffisiotherapi –

ffisiotherapi@gwynedd.gov.uk