Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn rhan werthfawr o’r pecyn tâl a gwobrwyo ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio i lywodraeth leol.

Nodyn i athrawon – Cynllun Pensiwn yr Athrawon

Os ydych yn athro neu athrawes yna nid yw’r wybodaeth isod yn berthnasol i chi. Rydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn yr Athrawon. Cliciwch yma am wybodaeth mewn perthynas â’r cynllun yma.

Os ydych hefyd yn gwneud dyletswyddau ychwanegol megis goruchwylio amser cinio yna mae’n debyg bod y dyletswyddau yno yn dod o dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a felly mae’r wybodaeth isod yn berthnasol ar gyfer yr elfennau yna yn unig.

Mae nodweddion allweddol y cynllun yn cynnwys:

Pensiwn diogel

Mae eich pensiwn yn cael ei weithio allan bob blwyddyn ac yn ychwanegu at eich cyfrif pensiwn. Bob blwyddyn mae 1 / 49fed o’ch cyflog pensiynadwy yn cael ei ychwanegu i mewn i’ch cyfrif pensiwn; ar ddiwedd y flwyddyn mae cyfanswm o’r pensiwn sydd yn eich cyfrif yn cael ei addasu i gymryd i ystyriaeth costau byw.

Hyblygrwydd i dalu mwy neu lai o gyfraniadau

Gallwch gynyddu eich pensiwn drwy dalu cyfraniadau ychwanegol, a byddech yn cael rhyddhad treth ar y cyfraniadau. Mae gennych hefyd y dewis yn y CPLlL i dalu hanner eich cyfraniadau arferol yn gyfnewid am groniad o hanner eich pensiwn arferol. Gelwir hyn yn adran 50/50 y cynllun ac mae wedi ei gynllunio i helpu aelodau aros yn y cynllun pan fydd pethau’n anodd yn ariannol.

Treth-effeithlon yn awr ac yn y dyfodol

Fel aelod o’r CPLlL, byddwch yn derbyn rhyddhad treth ar y cyfraniadau a dalwch yn ogystal mae gennych yr opsiwn pan fyddwch yn derbyn eich pensiwn i gyfnewid rhan ohono am arian parod di-dreth.

Tawelwch meddwl

Mae eich teulu yn mwynhau diogelwch ariannol, gydag yswiriant bywyd a phensiwn ar gyfer eich priod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw cymwys a phlant cymwys os byddwch yn marw mewn gwasanaeth, neu os byddwch yn marw ar ôl gadael (ar yr amod eich bod yn cyfarfod y cyfnod cymhwyso o 2 flynedd). Os ydych chi erioed yn mynd yn ddifrifol wael ac rydych wedi cyrraedd y cyfnod cymhwyso o 2 flynedd, gallech gael buddion ymddeoliad salwch yn syth.

Rhyddid i ddewis pryd i gymryd eich pensiwn

Mae eich pensiwn fel arfer yn daladwy o’ch oedran pensiwn arferol sy’n gysylltiedig â’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth (gyda lleiafswm o 65). Gallwch ddewis ymddeol a chymryd eich pensiwn ar unrhyw adeg rhwng oed 55 a 75. Os byddwch yn dewis cymryd eich pensiwn cyn eich oedran pensiwn arferol, bydd yn cael ei leihau fel arfer, gan ei fod yn cael ei dalu yn gynt. Os byddwch yn ei gymryd yn hwyrach na’ch oedran pensiwn arferol, bydd yn cael ei gynyddu oherwydd ei fod yn cael ei dalu yn hwyr.

Ymddeoliadau diswyddo ac effeithlonrwydd Os cewch eich diswyddo neu yn ymddeol ar sail effeithlonrwydd busnes ar neu ar ôl oed 55 byddwch, ar yr amod eich bod wedi cyrraedd y cyfnod cymhwyso o 2 flynedd, yn derbyn taliad yn syth o’ch prif fuddion sydd wedi eu hadeiladu yn y gronfa.

Ymddeoliad hyblyg

Os byddwch yn lleihau eich oriau neu yn symud i swydd gyda llai o gyfrifoldebau is ar neu ar ôl 55 oed gallwch, ar yr amod bod eich cyflogwr yn cytuno, ac eich bod wedi cyrraedd y cyfnod cymhwyso o 2 flynedd, tynnu rhan neu’r holl fuddion yr ydych eisoes wedi’i gronni yn y gronfa. Mae’n debygol y buasai’r buddion yn cael eu lleihau am daliad cynnar.

Am ragor o wybodaeth am Gronfa Bensiwn Gwynedd, gallwch ymweld â’r wefan

Gallwch hefyd gael mynediad i’ch nghofnod pensiwn ar-lein ar system hunan wasanaeth newydd