Mae diogelu plant ac oedolion bregus yn gyfrifoldeb i bawb sy’n cynrychioli neu’n gweithio ar ran y Cyngor.

Nid mater sy'n berthnasol i weithwyr cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill yn unig yw Diogelu.

Mae'n bwysig ein bod i gyd yn ymwybodol o'n dyletswydd i amddiffyn y rheini yn ein cymunedau all fod mewn perygl o gael eu camdrin neu eu hesgeuluso. 

Eich cyfrifoldeb fel aelod o staff
  • Byddwch yn effro i arwyddion o gamdriniaeth neu esgeulustod
  • Rhowch wybod am bryderon ar unwaith – peidiwch ag ymchwilio eich hun
  • Cofnodi gwybodaeth ffeithiol yn glir ac yn ddiogel
  • Cwblhau hyfforddiant mandadol Diogelu
  • Hyrwyddwch ymarfer diogelu yn eich gwaith bob dydd
  • Byddwch yn ymwybodol pwy yw Swyddog Dynodedig Diogelu eich Adran
  • Os oes gennych amheuaeth, rhowch wybod amdano.  Peidiwch a theimlo eich bod yn cael eich beirniadu am godi pryder
Sut i adrodd ar bryder
  1. Dylid cysylltu â’r Heddlu (999) heb oedi ar unwaith os yw plentyn neu oedolyn mewn perygl dybryd.
  2. Dylai unrhyw aelod o staff neu Cynghorwyr sydd â phryderon am ddiogelwch plentyn neu oedolyn gysylltu ar unwaith gyda’r canlynol:

Tîm Derbyn Cyfeiriadau ar 01766 772577

Dewiswch opsiwn 1 = Plant

Dewiswch opsiwn 2 = Oedolion

Am unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch plentyn neu oedolyn y tu    allan i oriau swyddfa arferol, ar ôl 5:00pm dydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau a Gwyliau'r Banc, dylid cysylltu â:

Thîm Tu Allan i Oriau'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01248 353551

3. Dylai unrhyw aelod o staff sydd yn ansicr a oes mater diogelu plentyn neu oedolyn drafod â Person Diogelu Dynodedig yr Adran neu eu rheolwr llinell.  Os nad ydynt ar gael, yna dylid cyfeirio’r mater ar unwaith i’r Timau a nodir uchod.