Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir. Rydym eisiau eich barn fel trigolion, busnesau, ymwelwyr neu randdeiliaid er mwyn eu hystyried yn ein trafodaethau.  

Beth yw’r Ardoll Ymwelwyr? 

Bydd yr Ardoll yn dâl dyddiol a delir gan bobl sy’n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, megis gwestai, bythynnod gwyliau, llety gwely a brecwast, a meysydd gwersylla.  

Ei nod yw cefnogi cymunedau, diwylliant a’r iaith Gymraeg, busnesau, cyfleusterau a’r amgylchedd leol trwy ail fuddsoddi’r incwm yn ôl yn yr ardal.  

I wybod mwy am yr ymgynghoriad ewch i- Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Gwynedd 

Mae’r arolwg ar agor o 20 Mai hyd at 15 Gorffennaf 2026. 

Sut i gymryd rhan 

Gallwch cyflwyno barn mewn sawl ffordd:  

Ar-lein:
gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud 

Holiadur papur:
Ar gael mewn llyfrgelloedd y sir a Siopau Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau), neu drwy ffonio 01766 771000 neu ardollymwelwyr@gwynedd.llyw.cymru  

Wyneb yn wyneb:
Cynhelir sesiynau ar draws Gwynedd ym mis Mehefin/Gorffennaf – manylion i’w cyhoeddi’n fuan ar Eventbrite a chyfryngau cymdeithasol Cyngor Gwynedd