Bydd y rhan fwyaf ohonom yn edrych ar ôl rhywun ar rhyw adeg yn ein bywyd, ac rydym fel cyflogwr yn awyddus i adnabod y gofalwyr di-dal yn ein mysg ac wedi ymrwymo i gydnabod y rôl bwysig yma. Dros y misoedd nesaf byddwn yn trafod a datblygu’r gefnogaeth sydd ar gael o fewn y cyngor gyda rheolwyr, ac aelodau staff sy’n gofalu. Fel rhan o’r datblygiad  yma rydym wedi ymaelodi â chynllun Cyflogwyr Gofalwyr Cymru.

Mae EfC Digidol Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth, cyngor, a gwybodaeth i staff, rheolwyr, neu’r rhai sy’n gyfrifol am les gweithwyr, gan gynnwys timau AD a Chynhwysiant ac Amrywiaeth. Mae mynediad i astudiaethau achos, deddfwriaeth a pholisïau enghreifftiol, enghreifftiau o arferion da, e-ddysgu a chanllawiau hanfodol ar gael.

Mae EfC Digidol Cymru hefyd yn cynnwys ystod eang o adnoddau gwybodaeth ymarferol, emosiynol ac ariannol sydd wedi’u cynllunio i roi’r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Gallwch gyrchu fodiwlau e-ddysgu, canllawiau ymarferol, a chynlluniau defnyddiol i’ch helpu i reoli eich cyfrifoldebau gofalu yn effeithiol. Hefyd, gallwch gael mynediad am ddim i ap cydlynu gofal Carers UK, Jointly.

Bydd angen cod i gofrestru: EFCP0302

efcdigitalwales.org

Jointly App

Gofalwyr di-dâl: Edrych ar ôl rhywun

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â : gofalwyr@gwynedd.llyw.cymru