
Beth yw’r Undeb Credyd?
Banc cymunedol yw’r undeb credyd a sefydlwyd er mwyn gweithio er budd pobl fel chi, y bobl sy’n dweud sut dylai gael ei redeg. Maent yn fath gwahanol o fanc ond â holl drefniadau diogelwch arferol a chefnogaeth y Llywodraeth fel aelodau o’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol ond mae un gwahaniaeth mawr – maent yn eiddo i bobl fel chi ac maent yn gweithio er budd pobl fel chi yn unig – pobl sy’n byw neu’n gweithio yng ngogledd Cymru.
Beth yw’r budd i’r unigolyn?
• Mae Undebau Credyd yn cynnig buddsoddiad moesol
• Mae’r arian gaiff ei fuddsoddi mewn undebau credyd yn rhoi budd i’r gymuned leol, ac nid i’r cyfranddalwyr
• Mae modd i chi gynilo cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch
• Mae cynilo ychydig bach o bres yn rheolaidd yn eich diogelu rhag unrhyw bwysau ariannol annisgwyl ac yn eich cynorthwyo i reoli eich arian mewn modd effeithiol.
• Mae’r Cynllun Didyniad Cyflog yn ffordd hawdd a hwylus o gynilo
• Mae’r arian wedi cael ei dynnu cyn iddo fynd i’ch banc felly nid ydych yn teimlo’r trawiad, ond rydych yn parhau i dderbyn y buddion o gynilo.
• Os ydych angen benthyciad, mae undebau credyd yn cynnig benthyciadau cost isel i’w aelodau.

Sut ydw i’n ymuno a chofrestru?
https://www.cambriancu.com/cy/aelodaeth-arfyrddio
https://www.cambriancu.com/cy/benthyciadau/moneyworks-benthyciad-cyflogres
https://www.cambriancu.com/cy/cynilion/cynilwch-moneyworks
*Mae hon yn safle we allanol sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor.

