Mae'n ofynnol i bob aelod o staff gwblhau hyfforddiant mandadol Diogelu sy'n berthnasol i'w rôl. Mae eich Rheolwr/Arweinydd Tim i fod i sicrhau eich bod yn cwblhau’r hyfforddiant yma ac mae’n hanfodol eich bod yn arwyddo cofrestr bresenoldeb i brofi eich bod wedi dysgu a deall yr hyfforddiant.
Prif nôd yr hyfforddiant yw i sicrhau eich bod yn:-
- Gwybod beth yw ystyr y term Diogelu
- Gwybod beth i gadw llygad amdano
- Gwybod i bwy y dylech roi gwybod
Bydd yr hyfforddiant yn egluro sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a'u hesgeuluso.
Er mwyn eich atgoffa o bwysigrwydd Diogelu a’n rôl ni gyd fel aelodau o staff y Cyngor, gallwch gael mynediad i’r hyfforddiant isod, mae’n 25 munud o hyd. Diolch am eich amser.
